Wrecsam: Holi dyn o hyd ar amheuaeth o lofruddio

Y Cambrian Vaults
Image caption Mae'r dafarn yn dal i gael ei hystyried fel safle droseddol

Mae dyn 45 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Mercher yn cael ei holi o hyd.

Daethpwyd o hyd i gorff dyn yn nhafarn y Cambrian Vaults yn Wrecsam ychydig wedi hanner nos nos Fawrth.

Roedd yn 34 oed o ardal Llai yn Wrecsam.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal dydd Mercher a bydd y dyn yn cael ei adnabod yn ffurfiol yn hwyrach.

Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn credu mai yn y dafarn yr oedd yr ymosodiad.

'Tystiolaeth'

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Graham Talbot: "Er i ddyn lleol gael ei arestio mae'r ymchwiliad newydd ddechrau a bydd datblygiadau'n dibynnu ar dystiolaeth yn cael ei chasglu'n ofalus o'r lleoliad.

"Mae tystion yn ein helpu i greu darlun cyflawn nid yn unig o ddigwyddiadau'r noson honno ond hefyd unrhyw gefndir neu hanes."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd y dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.