Y Gymraeg ar yr aelwyd: ffigyrau ONS

Cyfrifiad 2011
Image caption Mae'r ffigyrau yn dangos nad oes cynnydd yn y rhieni sydd yn dewis siarad Cymraeg ar yr aelwyd

Does yna ddim cynnydd wedi bod yn nhrosglwyddiad iaith i blant 3-4 oed mewn cartrefi ble mae yna ddau riant, a dau oedolyn yn siarad Cymraeg, yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2011.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod canran y plant 3-4 oed a all siarad Cymraeg yn yr aelwydydd hyn wedi aros yn gyson ar ryw 82% rhwng 2001 a 2011.

Mae hynny yn "siomedig," meddai'r ymgynghorydd iaith Cefin Campbell.

'Iaith y cartref'

Mae'n dweud ei fod yn gwybod am deuluoedd ble mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg fel mamiaith, ond yn dewis peidio siarad yr iaith ar yr aelwyd.

"Maen nhw wedi cwrdd â'i gilydd trwy'r Saesneg ac iaith y berthynas yw Saesneg. Mae iaith y cartref wedyn yn Saesneg."

Roedd yna gynnydd o ran trosglwyddo'r iaith ymhlith teuluoedd ble mae un oedolyn yn medru siarad Cymraeg a'r oedolyn arall ddim yn medru gwneud.

Roedd 40% o blant 3-4 oed mewn aelwydydd felly yn siarad Cymraeg yn 2001 ond 45% yn 2011.

Ond mae cwymp bychan wedi bod mewn trosglwyddiad mewn teuluoedd un rhiant ble roedd un oedolyn yn siarad Cymraeg. Y ffigwr yn 2001 oedd 53% - ddegawd cyn hynny 55% oedd y ffigwr cyfatebol.

Dangosodd y ffigyrau, gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener, bod cynnydd yn y nifer o blant 3-4 oed sydd yn siarad Cymraeg yn 2011 gyda 23.3% yn gallu siarad Cymraeg yn 2011 o'i gymharu gyda 18.8% yn 2001.

Adnoddau

Mae'r Swyddfa Ystadegau'n nodi bod gostyngiad yn y nifer o deuluoedd ble mae un oedolyn yn gallu siarad Cymraeg ac yn yr aelwydydd ble mae pawb yn y teulu yn medru'r iaith.

Mae Cefin Campbell, un o sylfaenwyr y mentrau iaith yn dweud bod angen canolbwyntio ar iaith yn yr aelwyd yn ystod y degawd nesaf.

Mae yna waith yn digwydd gyda Twf, sef mudiad sydd yn annog rhieni i siarad Cymraeg gyda'u plant o'r crud, ond mae o yn dweud bod angen mwy o adnoddau yn y maes.

"Dyw'r arian a'r adnoddau dynol ddim gyda ni. Does dim digon o arian gyda ni ar y lefel uchel o ran marchnata a chwrdd â merched beichiog a mamau yn y cyfnod cynnar yna.

"Mae trafodaeth fawr Carwyn Jones wythnos nesaf. Mae e yn esiampl ei hun gan ei fod e yn siarad Cymraeg gyda'i blant a'i wraig yn siarad Saesneg. Fe ddylai e ddangos i rieni y manteision o fedru siarad Cymraeg."

Marchnata

Mwy o farchnata sydd ei angen, meddai, a dangos i unigolion y manteision economaidd a chymdeithasol o fedru siarad yr iaith. Mae'n dweud y dylid defnyddio bob math o gyfryngau posibl i wneud hyn.

Dywed ei bod hi "bron yn amhosib" newid iaith pan mae plant yn hŷn a bod angen annog darpar rieni i ddewis siarad Cymraeg cyn gynted â phosib yn y cartref.

"Mae mam yn cyfathrebu gyda'r plentyn yn y groth ac fe ddylai mamau a thadau gyfathrebu bron cyn bod y babi yn cael ei eni trwy'r Gymraeg."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.