Damwain M4: dau yn yr ysbyty

Ambiwlans
Image caption Mae dau wedi eu hanfon i'r ysbyty gyda man anafiadau wedi damwain ar yr M4

Mae dau o bobl wedi eu hanfon i'r ysbyty gyda man anafiadau yn dilyn damwain ar yr M4 ym Mro Morgannwg.

Roedd un car wedi troi drosodd a'r ddau berson yn sownd yn eu cerbydau.

Bu'n rhaid i ddynion tân ddefnyddio offer i'w rhyddhau.

Cafodd pedwar o griwiau tân eu hanfon o Ben-y-bont, Pont-Y-Clun a Threlái i'r digwyddiad am 12:40pm ar ffordd orllewinol yr M4 rhwng cyffordd 34 a 35.