Cyhoeddi enw'r dyn gafodd ei ladd yn Wrecsam

Y Cambrian Vaults
Image caption Mae'r heddlu'n ymchwilio o hyd

Mae enw'r dyn 34 oed gafodd ei ladd mewn tafarn yn Wrecsam wedi cael ei gyhoeddi.

Y dyn lleol oedd Craig Maddocks o ardal Llai.

Mae dyn 45 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Mercher yn cael ei holi o hyd.

Cafodd ditectifs 36 awr yn ychwanegol ddydd Iau i'w holi.

Daethpwyd o hyd i gorff Mr Maddocks yn nhafarn y Cambrian Vaults ychydig wedi hanner nos nos Fawrth.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Mercher.

Teyrngedau

Mae teulu Craig Maddocks wedi rhoi teyrnged iddo.

Mewn datganiad dywedodd Edna a David: "Roedd yn belydr o oleuni wrth gerdded i mewn i'r ystafell ac yn ganolbwynt unrhyw sefyllfa.

"Hefyd roedd yn baffiwr o'r safon uchaf ond fyddai fyth yn ymladd heb y menig.

"Roedd wastad yn anelu at lefel ffitrwydd - roedd yn bêl-droediwr a dyn poblogaidd."

Dywedodd ei frawd, Daniel: "Mi wna i dy fethu di, frawd, chdi oedd fy efaill a fi oedd dy gysgod - dwi'n dy garu di lawer lawer iawn. Dwi'n dy fethu di, gyfaill."

Ychwanegodd ei chwaer, Lisa: "I fy mrawd mawr - rydan ni oll yn dy fethu di gymaint, chei di fyth dy anghofio ac fe wna i fy ngorau i edrych ar ôl Mam, Dad a dy blant."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd y dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.