Donaldson yn methu ennill

Jamie Donaldson Image copyright Reuters
Image caption Jamie Donaldson yn cipio Pencampwriaeth Abu Dhabi yn gynharach eleni

Mae Jamie Donaldson wedi gorffen yn gydradd ddegfed ym Mhencampwriaeth Golff Iwerddon ar gwrs Carton House yn Maynooth, Swydd Kildare.

Donaldson enillodd y bencampwriaeth yn 2012.

Cafodd y golffiwr o Bontypridd rownd o 72 mewn amodau anodd ddydd Sul i'w adael gyda chyfanswm saith ergyd yn well na'r safon, saith ergyd y tu ôl i'r enillydd Paul Casey o Loegr.

Cymro arall sydd wedi ennill y bencampwriaeth yn y gorffennol yw Stephen Dodd, a hynny ar gwrs Carton House lle'r oedd y gystadleuaeth eleni'n cael ei chynnal.

Ond rownd siomedig o 76 gafodd Dodd ddydd Sul i'w adael ymhell y tu ôl i'r ceffylau blaen.

Ni lwyddodd y tri Chymro arall yn y gystadleuaeth, Rhys Davies, Philip Price a'r golffiwr amatur Rhys Pugh, i gymhwyso ar gyfer y penwythnos.

Pencampwriaeth Agored Iwerddon: Cwrs Carton House, Maynooth, Swydd Kildare :-

1. Paul Casey (Lloegr) = -14

=2. Joost Luiten (Iseldiroedd) = -10

=2. Robert Rock (Lloegr) = -10

Manylion y Cymry :-

=10. Jamie Donaldson = -7

=58. Stephen Dodd = +2

Straeon perthnasol