Warburton i fethu prawf olaf y Llewod

Ni fydd Warburton yn holliach i'r trydydd prawf.
Cafodd Warburton ei anafu wrth i'r Llewod golli'r ail brawf

Ni fydd capten y Llewod, Sam Warburton yn chwarae yn y prawf olaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn, oherwydd anaf i'w goes.

Cafodd Warburton ei anafu pan gollodd y Llewod o 16-15 i Awstralia yn Melbourne.

Cafodd anaf i linyn y gar yn yr ail hanner, a daeth cadarnhad heddiw na fyddai'n holliach i arwain y tîm yn y prawf olaf yn Sydney.

Anaf 'sylweddol'

Os bydd yn cael ei ddewis, mae'n debyg mai'r Gwyddel Brian O'Driscoll fydd yn gapten ar y tîm, yn ei gêm olaf dros y Llewod.

Mae'r blaenasgellwr wedi cael rhwyg 'sylweddol' i linyn y gar yn ei goes chwith, ond bydd yn aros gyda'r garfan hyd at ddiwedd y daith.

Fe all Sean O'Brien neu'r Cymro Justin Tipuric ddechrau'r gêm olaf yn erbyn y Wallabies yn lle Warburton.

Dywedodd Warburton ei fod yn "hynod siomedig" na fyddai'n chwarae yn y gêm, pan fydd y Llewod yn gobeithio curo Awstralia i ennill y gyfres.