Dewis Gill ar gyfer Ynys Môn

Nathan Gill Image copyright Arall
Image caption Roedd y dyn busnes 39 oed yn ymgeisydd yn etholiadau'r cyngor.

Nathan Gill yw ymgeisydd UKIP ar gyfer Isetholiad Ynys Môn.

Roedd y dyn busnes 39 oed yn ymgeisydd yn etholiadau'r cyngor.

Yr isetholiad ar Awst 1 fydd yr un cynta' am sedd Cynulliad ers saith mlynedd.

Mae hyn yn sgil ymadawiad Ieuan Wyn Jones sy'n symud i swydd newydd fel arweinydd Parc Gwyddoniaeth Menai.

Ddydd Sul dewisodd Democratiaid Rhyddfrydol Steve Churchman fel eu hymgeisydd.

Mae Plaid Cymru wedi dewis Rhun ap Iorwerth a Llafur Cymru wedi dewis Tal Michael. Ymgeisydd y Ceidwadwyr yw Neil Fairlamb.

Straeon perthnasol