Banc Mam a Dad

A ninnau'n agosau at ddiwedd tymor y Cynulliad mae 'na dipyn o ras i gwblhau'r busnes cyn y dyddiau hirfelyn tesog - os daw'r rheiny eleni!

Heddiw, er enghraifft mae'r Cynulliad yn trafod y mesur organau, ymdrechion y Llywodraeth i gyflwyno mesur argyfwng ynghylch cyflogau gweithwyr amaethyddol a'r adroddiad damniol ynghylch Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Does 'na ddim lot o ocsigen ar ôl i straeon eraill felly. Dim ond hyn a hyn o straeon o'r Bae y mae ein cyfeillion yn Llandaf a Bangor yn gallu darlledu!

Mae hynny'n biti oherwydd bod ambell i stori fach ddiddorol yn cael ei gwasgu mas gan bwysau amser. Dyma un ohonyn nhw.

Y bore yma cyhoeddodd y Ceidwadwyr yr atebion i gyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth i brifysgolion yn Lloegr. Pwynt yr ymarferiad oedd tanlinellu faint o arian cyhoeddus Cymru sy'n croesi'r ffin er mwyn talu cyfran o ffioedd myfyrwyr Cymreig sy'n dewis astudio yn Lloegr.

Dyw e hi ddim yn syndod efallai mai prifysgolion yn weddol agos i'r ffin sy'n boblogaidd ymhlith myfyrwyr o Gymru. Mae bron i saith gant yn astudio ym Mhrifysgol Lerpwl a dros bum cant yr un ym mhrifysgolion Bryste, Caerfaddon a Chaerwysg. Mae cyfanswm y myfyrwyr o Gymru yn y pum prifysgol fwyaf poblogaidd yn 2,778. Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r prifysgolion hynny yn derbyn £15.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

"Gwleidyddol neis ond gwbl anghynaladwy" oedd disgrifiad Angela Burns, Llefarydd Addysg y Ceidwadwyr o'r system.

Mae 'na arwyddion bod 'na rhai ar feinciau'r Llywodraeth yn cytuno. Pan holwyd y cyn weinidog addysg Leighton Andrews ynghylch y pwnc ei ymateb bron yn ddieithriad oedd y byddai Llafur yn cadw at ei gair a chynnal y system bresennol gydol oes y Cynulliad hwn. Doedd 'na ddim clymu dwylo i fod ynghylch beth fyddai'n digwydd ar ôl etholiad nesaf y cynulliad yn 2016.

Tasg olynydd Leighton Andrews, Huw Lewis, fydd penderfynu beth ddylai Llafur addo gwneud yn ystod y Cynulliad nesaf. Mae 'na bwysau ariannol aruthrol arno - a gellir bod yn sicr bod 'na lawer o lobio tawel yn mynd ymlaen o du prifysgolion Cymru.

Gallai un ffactor arall fod yn chwarae ar feddwl y Gweinidog. Cynhaliwyd etholiadau diwethaf y Cynulliad gwta flwyddyn ar ôl tro pedol Democratiaid Rhyddfrydol San Steffan ynghylch ffioedd myfyrwyr. Roedd ariannu addysg uwch yn bwnc gwleidyddol crasboeth ar y pryd. Mae'n debyg bod y pwnc hwnnw ar ei ben ei hun yn ddigon i sicrhau bod Llafur yn cipio Canol Caerdydd o ddwylo'r Democratiaid Rhyddfrydol.

A fydd y pwnc yr un mor ganolog yn yr etholiad nesaf? Mae hynny'n annhebyg.

Os oes gennych chi blant sy'n cychwyn eu cyrsiau TGAU eleni efallai y byddai'n syniad dechrau cynilo ym Manc Mam a Dad. O bosib fe fydd 'na dipyn o alw ar y cyfrif hwnnw!