Anaf ddim yn atal Geraint Thomas

Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Llwyddodd Geraint Thomas i gwblhau'r drydydd cymal er iddo gracio ei belfis.

Doedd anaf i'r seiclwr o Gymru, Geraint Thomas ddim yn ddigon i'w atal rhag cwblhau trydydd cymal y Tour de France nos Lun.

Craciodd Thomas ei belfis mewn damwain ar ddiwrnod cyntaf y ras wrth i'r grŵp deithio o Porto Vecchio i Bastia.

Penderfynodd y tîm y byddai Thomas, sydd wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd, yn gallu parhau a llwyddodd i gwblhau'r cymal mynyddig i Calvi 9 funud y tu ôl i'r enillydd Simon Gerrans.

Mae pennaeth y tîm, Syr Dave Brailsford, wedi dweud bod cyflwr Geraint Thomas yn bryder ond y byddai'r tîm yn canolbwyntio ar helpu Chris Froome i gyrraedd y brig.

Image copyright AP
Image caption Bydd y ras yn symud i Nice ar gyfer y pedwerydd cymal ddydd Mawrth.

'Un diwrnod ar y tro'

Dywedodd y Cymro ei fod yn benderfynol o chwarae ei ran yn nhîm Sky ond ei fod yn bwysig gwrando ar ei gorff.

"Rydw i wedi dod yma fel rhan o'r tîm ond os ydy'r boen yn parhau rai diwrnodau does dim pwynt dioddef er mwyn cyrraedd y diwedd."

"Mae'n anodd dweud beth yw'r gobaith o gyrraedd Paris, bydd rhaid asesu un diwrnod ar y tro."

Straeon perthnasol