Cwmniau cyfathrebu: angen gwneud mwy i atal sgamio

Henoed
Mae Age Cymru yn dweud bod person hŷn yn colli ar gyfartaledd £1,200 os yw'n cael ei dwyllo

Mae elusen Age Cymru yn dweud y dylai cwmnïau cyfathrebu wneud mwy i atal twyllwyr rhag medru cysylltu gyda phobl hŷn.

Yn ôl yr elusen, mae'r cwmnïau yn anfwriadol yn gwneud arian o weithgareddau unigolion sydd yn twyllo.

Maen nhw'n dweud bod yna gyfrifoldeb ar wasanaethau megis y Post Brenhinol a darparwyr ffon a'r we i wneud yn siŵr bod pobl hŷn ddim yn cael eu targedu.

5%

Trwy gais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mi wnaeth Age Cymru ddarganfod fod mwy na 2,500 o sgamiau wedi cael eu hadrodd i adrannau safonau masnach rhwng Chwefror 2012 a Chwefror eleni yng Nghymru.

Ond mae'r Swyddfa Fasnach yn amcangyfrif fod y ffigwr mewn gwirionedd yn llawer iawn uwch am mai dim ond rhyw 5% o achosion o sgamiau sydd yn cael eu cofnodi.

Yn aml pan mae unigolyn yn dweud am ei brofiad dyw'r drwgweithredwyr ddim yn cael eu herlyn ac mae manylion y dioddefwr yn aml yn cael eu rhannu gyda chylch mwy eang o droseddwyr.

Mae'r elusen yn dweud bod pobl hŷn sydd yn cael eu twyllo ar gyfartaledd yn colli £1,200 yr un.

Gwneud mwy

Ar hyn o bryd mae llythyrau, boed y rhain yn dwyllodrus neu beidio yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad ar yr amlen.

Ond dywed Age Cymru ei bod eisiau i Lywodraeth San Steffan gael gwared ag unrhyw rwystrau deddfwriaethol sydd yn atal y Post Brenhinol rhag ymyrryd.

Yn ei tyb nhw mi ddylai'r gwasanaeth adrodd post amheus pan maent yn amau bod rhywun yn cael ei sgamio.

Fe ddylai gwasanaethau ffon a darparwyr y we hefyd ddefnyddio technoleg a phrotocol gwell er mwyn ceisio lleihau'r e-byst a negeseuon ffôn y mae pobl yn derbyn gan dwyllwyr.

Fel rhan o'r ymgyrch bydd yr elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i ledaenu ardaloedd lle y gwneir hi'n glir nad oes croeso i bobl guro ar ddrysau trigolion heb wahoddiad.

Gelwir y llefydd yma yn Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad ac mae Age Cymru yn dweud eu bod wedi arwain at lai o droseddau.

Twyll

Mae Age Cymru yn clywed am straeon o unigolion yn cael eu twyllo yn barhaus ac mae'n gallu achosi straen ar y teulu.

Dywed un ferch o ogledd Cymru bod ei mam hi yn dal i gael ei scamio ond nad yw'n fodlon derbyn hyn. Mi ddechreuodd gael ei thwyllo pan oedd yn nyrsio ei gŵr:

"Ychydig cyn iddo farw, roedd o dan straen mawr ac roedd angen iddi bellhau ei hun. Efallai ei bod hi wedi rhoi cynnig ar loterïau tramor, nid yw'n gallu cofio, ac yn bendant, archebodd lawer o bethau nad oedd eu hangen arni er mwyn cymryd rhan mewn cystadlaethau, yn enwedig ychydig ar ôl ei farwolaeth.

"Treuliodd amser wedyn yn ysgrifennu at gwmnïau yn gofyn ble yr oedd y gwobrau yr oeddent wedi'u haddo. Roedd wedi bod yn briod ers 50 mlynedd ac roeddent wastad gyda'i gilydd.

"Sylweddolom fod hyn yn digwydd flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl cael mynediad at ei llyfr siec i'w helpu i dalu ei biliau, a gwelsom ei bod yn anfon cyfartaledd o £70 yr wythnos at y sgamwyr hyn.

"Rwyf wedi esbonio iddi mai sgamiau yw'r rhain, ond nid yw eisiau credu hyn ac mae'n benderfynol y bydd yr arian y bydd hi'n ei ennill ar ein cyfer ni, ei phlant.

"Rydym wedi erfyn arni i stopio gan ein bod ni dan gymaint o straen o'r herwydd. Mae fy mam yn ei wythdegau hwyr, yn ddeallus ac yn ei iawn bwyll, ar wahân i hyn. "

Cefnogaeth

Mae ystod o Aelodau Seneddol Cymreig ac Aelodau Cynulliad wedi datgan eu bod yn cefnogi ymgrych Age Cymru ac mae'r elusen yn dweud ei bod yn gweithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn a safonau masnach i geisio taclo'r broblem.

Yn ôl cydlynydd ymgyrchoedd yr elusen Gerry Keighley, mae yna ymgyrchoedd i geisio rhybuddio pobl hŷn o beryglon e-bost a llythyrau sgam ond dyw hynny ddim yn ddigon.

"Rydyn ni yn pryderu yn enwedig am bobl hŷn sydd wedi eu hynysu, sydd efallai yn dioddef o ddementia, sydd gyda arian ac sydd yn cael eu targedu gan dwyllwyr.

"Mae'n bryd i'r cwmnïau sydd yn gwneud arian trwy eu rhwydweithiau gyda rhain i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y broblem."