Abertawe'n arwyddo Pozuelo o Betis

Alejandro Pozuelo Image copyright BBC Sport
Image caption Mae Alejandro Pozuelo'n awyddus i wella ei Saesneg

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Alejandro Pozuelo o Real Betis.

Pozuelo, 21, yw'r seithfed Sbaenwr yn nhîm Abertawe wrth iddo ymuno a'i gyd-wladwyr Jordi Amat sydd newydd ymuno o Espanyol a Jose Canas, oedd yn arfer chwarae gyda Pozuelo i Real Betis.

Fe wnaeth Pozuelo ymddangos 11 gwaith yn La Liga'r flwyddyn ddiwethaf dros ei glwb ac mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup yn gobeithio y bydd ei bresenoldeb yn rhoi hwb i'w glwb newydd yng nghanol y cae.

Wedi iddo arwyddo contract tair blynedd gyda Abertawe, dywedodd Pozuelo: "Ers i mi fod yn fachgen bach, fy mreuddwyd oedd chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr.

"O'r eiliad clywais am y diddordeb o Abertawe fe fues i'n gwylio eu gemau ac yn dilyn y newyddion am y clwb.

"Mae arddull y tîm yn fy ngweddu, ac felly hefyd arddull y rheolwr.

"Wrth gwrs, mae yna lawer o chwaraewyr Sbaeneg yma, yn cynnwys Jose Canas, rhywun rwyf wedi chwarae efo fo o''r blaen i Betis - bydd hynny'n fy helpu i ymgartrefu'n gyflym.

"Yr wyf yn edrych i wella fy Saesneg yn syth oherwydd rwy'n awyddus i gyfathrebu'n well gyda gweddill fy nhîm.

"Rwy'n barod i roi popeth sydd gen i i'r clwb er mwyn helpu'r tîm y tymor hwn."

Straeon perthnasol