Môn: Fairlamb yw ymgeisydd y Ceidwadwyr

Neil Fairlamb
Image caption Neil Fairlamb fydd yn cynrychioli'r Ceidwadwyr ym Môn

Mae'r blaid Geidwadol wedi dewis Neil Fairlamb fel eu hymgeisydd yn isetholiad cynulliad Ynys Môn ar Awst 1.

Mae Mr Fairlamb yn byw ar yr ynys ac yn edrych ar ôl saith eglwys fel rhan o'i swydd fel rheithor Biwmares.

Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal yn dilyn ymadawiad yr aelod blaenorol, Ieuan Wyn Jones, er mwyn symud i swydd newydd fel arweinydd Parc Gwyddoniaeth Menai.

Wedi i'w blaid gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Mr Fairlamb: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy newis a byddaf yn canolbwyntio ar fuddsoddi ar gyfer yr ynys a gwelliannau iechyd a chymunedol.

"Rwyf am annog mentergarwch unigol gydag ymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol."

Mae Plaid Cymru wedi dewis Rhun ap Iorwerth fel eu hymgeisydd nhw, a Llafur Cymru wedi dewis Tal Michael i frwydro'r isetholiad.

Steve Churchman sydd yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol a Nathan Gill oedd dewis UKIP.

Straeon perthnasol