Alun Wyn Jones i arwain Y Llewod

  • 3 Gorffennaf 2013
Alun Wyn Jones
Dyma'r tro cyntaf i Alun Wyn Jones fod yn gapten ar dîm Y Llewod

Alun Wyn Jones fydd capten y Llewod yn y prawf olaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Mae'r hyfforddwr Warren Gatland wedi cyhoeddi chwech newid i'r tîm ers ei gem ddiwethaf, gan gynnwys y penderfyniad i beidio cynnwys y Gwyddel Brian O'Driscoll yn y garfan.

Mae'r canolwr Jamie Roberts rŵan yn ddigon iach i chwarae ac mae o Alex Corbisiero, Richard Hibbard, Sean O'Brien, Mike Phillips a Toby Faletau ymhlith y deg Cymro yn y tîm.

1-1

Awstralia enillodd y gêm ddiwethaf ond roedd y Llewod yn fuddugol yn y gêm gyntaf. Mi fydd dydd Sadwrn felly yn ddiwrnod mawr i'r ddau dîm am y bydd y sgôr yn penderfynu pwy sydd wedi ennill y prawf cyfan.

Roedd nifer yn darogan mae O'Driscoll fyddai yn camu i esgidiau Sam Warbuton ar ôl i'r Cymro gael anaf i linyn y gar a hynny oherwydd ei brofiad helaeth.

Ond mae Warren Gatland wedi penderfynu dewis Alun Wyn Jones.

Dyma'r tro cyntaf iddo ef fod yn gapten ar dîm Y Llewod: "Gobeithio mod i wedi fy newis am y ffordd rydw i yn chwarae ac nid o anghenraid oherwydd y ffordd dw i'n arwain," meddai.

"Pan wnes i ddechrau chwarae ar y daith roeddwn i yn canolbwyntio ar gael fy newis i chwarae yn y prawf cyntaf. Mae cael fy newis wedyn i chwarae yn y safle y byddaf i ar gyfer y prawf olaf yn foment reit arbennig i mi yn bersonol. Ond yn amlwg mae yna swydd i'w wneud."