Apelio eto am dystion i farwolaeth yn Wrecsam

Y Cambrian Vaults
Image caption Hoffai'r heddlu siarad gydag unrhyw un oedd yn y Cambrian Vaults y noson dan sylw.

Mae heddlu'r gogledd wedi apelio eto am dystion yn dilyn marwolaeth dyn mewn tafarn yn Wrecsam.

Bu farw Craig Maddocks o ardal Llai yn oriau mân dydd Mercher Mehefin 26 ar ôl digwyddiad yn nhafarn y Cambrian Vaults.

Mae Francisco John Prevete, 45 oed o Wrecsam, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

'Nifer o bobl'

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Graham Talbot: "Mae nifer o dystion wedi cysylltu yn barod ond wedi i ni wylio lluniau teledu cylch cyfyng mae'n amlwg fod nifer o bobl nad ydyn ni wedi siarad gyda nhw.

"Rydym yn awyddus i siarad gyda phawb oedd yn y Cambrian Vaults rhwng 11.30pm nos Fawrth Mehefin 25 a 1.30am ddydd Mercher Mehefin 26."

Straeon perthnasol