Y Daleks a Dr Who ar y daith frenhinol

Tywysog Charles a Duges Cernyw
Image caption Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw wedi ymweld â stiwdios Dr Who ym Mhorth y Rhath.

Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw wedi ymweld â stiwdios y BBC ym Mhorth y Rhath yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw barhau ar eu taith o amgylch Cymru.

Cafodd y Tywysog a'r Duges y cyfle i weld y Tardis o'r gyfres Dr Who, a gweld y gelynion enwog, y Daleks.

Dywedodd un o'r awduron Stephen Moffat y byddai lle yn y gyfres i'r Tywysog, wedi iddo roi cynnig ar y bygythiad enwog "exterminate!"

"Dydw i heb feddwl am sut i greu cyfarfod rhwng y teulu Brenhinol a'r Doctor. Ond roedd cynnig y Tywysog Charles ar fod yn Dalek yn grêt!"

Image caption Roedd cyfle i'r cwpl brenhinol weld y Tardis enwog o gyfres Dr Who.

Taith Cymru

Mae'r ymweliad yn rhan o daith flynyddol y Tywysog a'r Dduges yng Nghymru.

Mae'n nhw eisoes wedi ymweld â hen gartref Dylan Thomas a chapel hanesyddol Rhug ger Corwen.

Roedd yr actorion Matt Smith a Jenna Coleman, sy'n chwarae Doctor Who a'i gyfaill, yn y stiwdios ym Mae Caerdydd i gwrdd â'r Tywysog a'r Dduges.

Dangosodd Nicholas Briggs, sy'n lleisio'r Daleks yno hefyd, a staff cynhyrchu yr holl effeithiau arbennig sy'n cael eu defnyddio yn y gyfres.

Wedyn mae'r Tywysog yn ymweld â phencadlys Prince's Trust Cymru a Duges Cernyw yn teithio i Borthcawl.

Straeon perthnasol