Cynhadledd yn trafod cryfhau'r iaith

Carwyn Jones
Image caption Carwyn Jones fydd yn arwain y Gynhadledd Fawr

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi agor cynhadledd yn Aberystwyth er mwyn trafod sut i gryfhau sefyllfa'r iaith Gymraeg.

Roedd mwy na 150 yn Y Gynhadledd Fawr - o sefydliadau cenedlaethol, mentrau iaith, cynghorau sir a'r sector preifat.

Mae modd dilyn y drafodaeth yn fyw ar y we.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma'r tro cyntaf i drafodaeth ar y Gymraeg gael ei chynnal ar raddfa mor eang, ac eisoes mae dros 2,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein.

Hwn yw'r digwyddiad cynta' sy'n ymwneud â'r iaith ers i Carwyn Jones gymryd cyfrifoldeb am y portffolio iaith Gymraeg wedi iddo ad-drefnu ei gabinet yn dilyn ymddiswyddiad y cyn weinidog addysg a'r iaith Gymraeg, Leighton Andrews.

Teimladau cryfion

Dywedodd Mr Jones: "Mae ymatebion pobl i'r drafodaeth hyd yn hyn yn dangos pa mor gryf maen nhw'n teimlo ynghylch dyfodol y Gymraeg.

"Mae'r iaith yn rhan o'n hunaniaeth ddiwylliannol ac mae'n iawn fod pobl yn teimlo bod rhaid ei gwarchod.

"Rydyn ni'n awyddus i gael sylwadau pobl am y ffordd orau o ddiogelu'r iaith gan sicrhau bod pobl yn cael cyfle i'w defnyddio yn eu bywydau pob dydd.

"Rydyn ni wedi cael nifer o sylwadau diddorol hyd yn hyn oddi wrth bobl o bob oed a chefndir, gan gynnwys rhai nad ydyn nhw'n siarad yr iaith."

'Prin yw'r buddsoddiad'

Un mudiad sydd eisoes wedi cynnig eu barn yw'r grŵp ymbarél Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.

Maen nhw wedi cyflwyno dogfen drafod i'r Gynhadledd Fawr sy'n dadlau bod angen buddsoddiad yn yr iaith sy'n cyfateb â'r lefelau yng Ngwlad y Basg.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi 1% o'i chyllideb mewn prosiectau penodol i hybu'r Gymraeg.

Mae'r grŵp yn cynnwys 23 o fudiadau, a dywedodd cadeirydd y grŵp Huw Thomas:

"Bwriad ein papur trafod yw amlinellu ffyrdd lle yr ydym, fel mudiadau, yn credu y gellid cyrraedd nodau ac amcanion y Llywodraeth.

"Cred Mudiadau Dathlu'r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i'r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg."

"Oherwydd patrymau gwariant hanesyddol, prin yw buddsoddiad y llywodraeth yn y Gymraeg. Araf hefyd yw'r ymgais i brif-ffrydio'r Gymraeg drwy adrannau'r Llywodraeth ac yn aml nid yw polisïau newydd yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth.

"Mae 'na fuddsoddiad llawer helaethach yn yr iaith Fasgeg, a gwelwn fod y buddsoddiad hwnnw'n dwyn ffrwyth gyda chynnydd yn nifer siaradwyr yr iaith.

Image copyright other
Image caption Mae modd cyfrannu i'r Gynhadledd Fawr ar wefannau Facebook a Twitter

"Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn amlygu nifer o heriau a wyneba'r Iaith, ond credwn fod meysydd penodol lle gellid buddsoddi a fyddai o fudd nid yn unig i'r Gymraeg ond i nifer o amcanion eraill y Llywodraeth."

Sut i wylio?

Mae'r Gynhadledd Fawr rhwng 10am a 4pm ddydd Iau, Gorffennaf 4.

Ac mae modd i bobl sy'n gwylio ar-lein wrando ar areithiau, ymuno yn y trafodaethau a gofyn cwestiynau i'r panel.

Gallwch ymuno yn y gynhadledd drwy fynd i wefan pwrpasol llywodraeth Cymru ar gyfer y digwyddiad.

Mae modd hefyd i gyfrannu drwy wefan Twitter (#iaithfyw), Facebook (facebook.com/Cymraeg), dros y ffôn (01239 711668) ac e-bost (iaithfyw@iaith.eu).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.