Gorchymyn llywodraeth i gyhoeddi dogfennau

  • 4 Gorffennaf 2013
Yr Athro Marcus Longley
Arweiniodd adroddiad yr Athro Marcus Longley at ffrae wleidyddol yn y Senedd y llynedd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gorchymyn i ryddhau mwy o ddogfennau sy'n ymwneud ag adroddiad dadleuol am ddiwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau wedi cwestiynu a oedd yr adroddiad yn ddiduedd wedi i e-byst rhwng yr awdur, yr Athro Marcus Longley, a swyddogion y llywodraeth ddod i'r amlwg flwyddyn yn ôl.

Mae'r Athro Longley a gweinidogion wedi gwadu bod gan y llywodraeth unrhyw ddylanwad ar yr adroddiad.

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi barnu y dylai fersiynau drafft o'r adroddiad - Yr Achos Dros Newid - a pheth cyfathrebu mewnol y llywodraeth gael eu cyhoeddi.

Dywedodd y Comisiynydd bod "diddordeb cyhoeddus cryf iawn" yn galw am gyhoeddi'r wybodaeth.

Diffyg hyder

Arweiniodd y ffrae wleidyddol am yr adroddiad flwyddyn yn ôl at bleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Lesley Griffiths, ond fe lwyddodd i oroesi'r bleidlais o drwch blewyn.

Roedd cyfres o e-byst yn dangos bod yr Athro Longley wedi cysylltu â swyddogion o Lywodraeth Cymru wrth iddo baratoi'r adroddiad, gan ofyn am "ffeithiau cadarn" i gefnogi'r achos dros newidiadau i'r GIG, a thystiolaeth bellach "i finio'r adroddiad a'i effaith wrth gefnogi'r achos am newid".

Mynnodd Mrs Griffiths nad oedd wedi gweld yr adroddiad tan y fersiwn derfynol, ac nad oedd ei swyddogion wedi dylanwadu arno.

Yn yr adroddiad fe rybuddiodd yr Athro Longley bod rhai gwasanaethau mewn perygl o "ddymchwel".

Mewn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, roedd Plaid Cymru wedi gofyn am gael gweld fersiynau drafft o'r adroddiad ac unrhyw gyfathrebu rhwng Ms Griffiths, gweision sifil ac ymgynghorwyr arbennig.

Pan wrthodwyd eu cais, aeth y blaid at y Comisiynydd Gwybodaeth Christopher Graham.

'Darlun cyflawn'

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod datgelu e-byst am y mater yn flaenorol wedi arwain at sylw mawr yn y cyfryngau, a bod y gweinidog "wedi gorfod rhoi datganiad llafar yn y Cynulliad Cenedlaethol a chael ei holi gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad".

Roedd hynny, medd y llywodraeth, wedi golygu defnyddio adnoddau er mwyn rheoli'r sylw gan y cyfryngau, a rhybuddiodd y gallai cyhoeddiadau pellach "fod yn debygol o adnewyddu'r sylw gan y cyfryngau ac achosi i swyddogion gael eu symud i ddelio gydag effeithiau'r cyhoeddi".

Dadl arall y llywodraeth oedd y byddai cyhoeddi'r dogfennau "yn cael effaith ar greu polisi" a'i bod yn hanfodol i swyddogion a gweinidogion gael "y lle i drafod materion heb gael eu llesteirio gan sylwadau allanol na gweithredu'r cyfryngau".

Ond wrth farnu yn eu herbyn dywedodd Mr Graham bod "diddordeb cyhoeddus mawr iawn mewn datgelu'r manylion drafft fel bod gan y cyhoedd ddarlun cyflawn o'r penderfyniad neu'r broses o greu polisi er mwyn hybu tryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â gweithredoedd cyrff cyhoeddus".

"Byddai datgelu'r dogfennau yn debyg o gynyddu hyder y cyhoedd yn y broses ac yn dangos yr ystod eang o ddewisiadau a ystyriwyd yn ystod y broses," meddai.

"Mae'r wybodaeth yn amlwg yn rhan o raglen fawr yn ymwneud â newid yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a fydd yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl."

35 diwrnod

Disgrifiodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones AC, y penderfyniad fel "buddugoliaeth i agoredrwydd a thryloywder" a galwodd ar weinidogion i ryddhau'r wybodaeth ar unwaith.

Dywedodd: "Mae'r GIG yng Nghymru yn mynd drwy newid enfawr ac mae gan y cyhoedd yr hawl i weld yr holl dystiolaeth arweiniodd at adroddiad terfynol yr Athro Longley."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fe gafodd ein rhesymau am wrthod datgelu'r wybodaeth eu datgan yn glir yn ein hymateb i'r cais Rhyddid Gwybodaeth ac yn y farn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

"Mae'r Swyddfa wedi barnu o blaid rhyddhau'r wybodaeth, ond dywedodd y Comisiynydd bod y dadleuon o blaid ac yn erbyn cyhoeddi yn yr achos hwn ar fin y gyllell."

Yn ôl y gyfraith, mae gan Lywodraeth Cymru 35 diwrnod i ryddhau'r wybodaeth o'r dyddiad y'i gorchmynnwyd i wneud hynny gan y Comisiynydd Gwybodaeth.