Morgannwg yn ennill eto

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae Morgannwg wedi ennill eu hail gêm yn y gystadleuaeth T20 trwy guro Sir Warwick o bedair wiced yn Stadiwm Swalec.

Ar ôl galw'r gywir a dewis maesu, fe gafodd bowlwyr y tîm cartref hwyl dda arni, gan gyfyngu'r ymwelwyr i sgôr o 118 yn eu 20 pelawd.

Dyw chwe rhediad ymhob pelawd ddim yn cael ei ystyried yn sgôr uchel yn y T20, ond fe gollodd Morgannwg wicedi cyflym wrth geisio am y nod er gwaethaf ymdrechion Chris Cooke a Marcus North.

Erbyn y diwedd roedd angen 17 rhediad oddi ar y ddwy belawd olaf ar Forgannwg, ac fe agmodd Nathan McCullum i'r adwy.

Tarodd y gŵr o Seland Newydd 18 disglair oddi ar 5 pelen - gyda dau 6 ac un 4 - i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda phum pelen yn weddill.

Mae Morgannwg ar frig eu grŵp ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol yn y gystadleuaeth.

Sgôr terfynol:

Sir Warwick - 118 (20 pelawd)

Morgannwg - 121 am 6 wiced (19.1 pelawd)

Morgannwg (ail fatiad) - 278 i gyd allan

Sir Gaerwrangon (ail fatiad) - 51 am 2 i ennill