Ennill yn 'rhagori ar bopeth'

Mike Phillips
Mae Mike Phillips yn credu y bydd ennill cyfres gyda'r Llewod yn well nag ennill y Gamp Lawn gyda Chymru

Mae mewnwr Cymru a'r Llewod Mike Phillips wedi dweud y byddai curo Awstralia yn y prawf olaf ddydd Sadwrn yn rhagori ar unrhywbeth yn ei yrfa hyd yn hyn.

Mae Phillips, 30 oed, wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru, ond mae'n benderfynol o ymuno gyda'r criw dethol sydd wedi ennill cyfres gyda'r Llewod.

"Mae hwn yn unigryw - unwaith bob pedair blynedd gyda chriw o bobl arbennig.

"Os gallwn ni ennill y gyfres dros y penwythnos, fe fyddai'n well nag unrhywbeth arall."

Mae'n un o 10 Cymro yn y 15 fydd yn dechrau'r trydydd prawf yn Sydney, ond mae'r hyfforddwr Warren Gatland yn dal i amddiffyn ei benderfyniad i adael Brian O'Driscoll allan o'r garfan.

Roedd Gatland yn cydnabod mai dyma'r tro cyntaf i'r Gwyddel gael ei adael allan o dîm mewn 15 mlynedd o rygbi ar y lefel uchaf.

"Doedd e ddim yn benderfyniad hawdd ond mae Brian yn mynd i fod yn bwysig iawn i'r garfan dros y dyddiau nesaf o safbwynt ei brofiad a'i arweiniad.

"Roedd e'n siomedig yn amlwg, ond yn gwerthfawrogi fy mod i wedi siarad ag e cyn cyhoeddi'r tîm."

'Yn foi gwych'

Yn dilyn anafiadau i Sam Warburton a Paul O'Connell, Alun-Wyn Jones fydd yn gapten ar gyfer y gêm hollbwysig ac roedd Mike Phillips yn canu clodydd ei gyn gyd-chwaraewr gyda'r Gweilch.

"Mae e'n foi gwych sydd wedi perfformio'n ardderchog ar y daith," meddai. "Mae e'n arweinydd ar y cae ac oddi arno.

"Bu'n gapten ar y Gweilch a Chymru sawl gwaith. Mae'n siŵr o dyfu yn y rôl ac rwy'n hapus dros ben ar ei ran."

Dyw'r Llewod heb ennill taith ers curo De Affrica yn 1997, a dydyn nhw heb ennill taith yn Awstralia ers 1989.

TÎM Y LLEWOD v. AWSTRALIA: Y TRYDYDD PRAWF; SYDNEY; ddydd Sadwrn, Gorffennaf 6:-

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

14. Tommy Bowe (Iwerddon)

13. Jonathan Davies (Cymru)

12. Jamie Roberts (Cymru)

11. George North (Cymru)

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

9. Mike Phillips (Cymru)

1. Alex Corbisiero (Lloegr)

2. Richard Hibbard (Cymru)

3. Adam Jones (Cymru)

4. Alun-Wyn Jones (Cymru, capten)

5. Geoff Parling (Lloegr)

6. Dan Lydiate (Cymru)

7. Sean O'Brien (Iwerddon)

8. Toby Faletau (Cymru)

Eilyddion: Tom Youngs (Lloegr), Mako Vunipola (Lloegr), Dan Cole (Lloegr), Richie Gray (Yr Alban), Justin Tipuric (Cymru), Conor Murray (Iwerddon), Owen Farrell (Lloegr), Manu Tuilagi (Lloegr).