Giggs yn cael ei benodi'n hyfforddwr

Ryan Giggs Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Ryan Giggs yn 40 oed yn ddiweddarach eleni

Mae clwb pêl-droed Manchester United wedi cadarnhau y bydd Ryan Giggs yn ymuno â'r tîm hyfforddi y tymor nesaf.

Bydd cyn asgellwr Cymru yn cyfuno'r gwaith gyda'i rôl fel chwaraewr am y tro.

Arwyddodd Giggs estyniad o flwyddyn i'w gytundeb fel chwaraewr yn gynharach eleni - bydd yn 40 oed yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Gyda rheolwr newydd, David Moyes, wrth y llyw, roedd cyn chwaraewr arall gyda'r clwb, Phil Neville, eisoes wedi ymuno fel aelod o'r tîm hyfforddi.

Ddydd Iau daeth cadarnhad y bydd Giggs hefyd yn y tîm.

"Mae'n fraint aruthrol cael fy mhenodi yn chwaraewr-hyfforddwr," meddai.

"Gobeithio y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad yn y swydd gan fy mod wedi bod yn chwaraewr ac yn rhan o deulu Manchester United am gyhyd."