Cyn bennaeth heddlu: Cost o fwy na £16,000

Carmel Napier ac Ian Johnston
Image caption Bu cyn Brif Gwnstabl Gwent Carmel Napier a'r comisiynydd heddlu Ian Johnston yn rhoi tystiolaeth i ASau ddydd Mawrth

Fe gostiodd ymdrech Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent i gael gwared â'i brif gwnstabl dros £16,000 i'r trethdalwr.

Mewn llythyr at Aelodau Seneddol datgelodd Ian Johnston ei fod wedi gwario'r arian i gyflogi bargyfreithiwr a dirprwy.

Fe gamodd y cyn brif gwnstabl, Carmel Napier, o'r neilltu ym mis Mai wedi i Mr Johnston orchymyn iddi ymddeol.

Wrth ateb cwestiwn Pwyllgor Dethol Materion Cartref San Steffan, dywedodd Mr Johnston ei fod wedi gwario £16,522.50 hyd yn hyn - cyflog o £400 yr awr i uwchfargyfreithiwr a £175 yr awr i fargyfreithiwr arall.

'Pryder mawr'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Keith Vaz AS: "Mae'n bryder mawr i mi bod cymaint o arian y trethdalwr wedi cael ei wario ar gyngor cyfreithiol yn ystod yr hanes yma yng Ngwent.

"Mae'n amlwg bod angen craffu'n ofalus ar bwerau ac atebolrwydd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

"Bydd y pwyllgor hwn yn ail-edrych ar fater y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ar ben-blwydd eu hethol ym mis Tachwedd."

Tŷ'r Cyffredin

Fe wnaeth ASau Llafur feirniadu'r llywodraeth am gyflwyno Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn ystod Cwestiynau Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.

Gofynnodd Kevin Brennan, Aelod Gorllewin Caerdydd, a oedd y llywodraeth yn credu ei fod yn iawn fod comisiynwyr yn medru diswyddo cwnstabliaid "ar fympwy".

Un arall wnaeth feirniadu'r polisi oedd Paul Flynn. Gofynnodd a oedd Ysgrifennydd Cymru David Jones yn cytuno mai hwn oedd "polisi fwyaf twp" ei lywodraeth.

Amddiffynnodd Mr Jones y polisi, gan ddweud ei fod yn ffordd o "gyflwyno democratiaeth i mewn i blismona".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.