R.S. Thomas: 'Nid y dyn blin'

RS Thomas
Fe fu farw RS Thomas yn y flwyddyn 2000 yn 87 oed

Doedd R.S. Thomas ddim yn ddyn blin, pigog, yn ôl llyfr newydd sy'n cael ei gyhoeddi'r wythnos hon.

Ynddo mae cymdogion yn hel atgofion am y bardd wrth ddathlu canrif ers ei eni.

Fe symudodd Ronald Stuart Thomas, oedd wedi dysgu Cymraeg yn ei dridegau, i Ben Llŷn yn 1967 ac yno ysgrifennodd farddoniaeth am natur a'i berthynas gyda Duw.

Mae'n aml yn cael ei gofio fel dyn oedd â mwy o ddiddordeb mewn adar na mewn pobl ond dyw hynny ddim yn dweud y stori gyfan.

'Galwyni o de'

Bu'r bardd Gareth Neigwl yn gymydog am flynyddoedd ac mae'n cofio'r oriau dreulion nhw'n siarad a sgwrsio.

"Am gyfnod maith fyddai hi ddim yn nos Wener heb i R.S. alw heibio. Yn wir, galwai ar ambell noson arall hefyd, a hynny heb unrhyw reswm amlwg, dim ond galw i sgwrsio.

"Cyrhaeddai yn ddieithriad tua naw a fyddai o byth yn meddwl ei throi hi tan oddeutu hanner awr wedi hanner i un o'r gloch y bore.

"Dwi'n cofio darllen rhywbeth amdano unwaith mewn rhyw bapur newydd Saesneg.

Cael cam

"Roedd y newyddiadurwr yn honni ei fod o'n berson digon rhyfedd gan nad oedd o'n yfed te o gwbl. A finna' wedi tywallt galwyni o de iddo fo dros y blynyddoedd."

Dywedodd fod R.S. Thomas wedi cael cam gan ambell i newyddiadurwr oedd ddim yn gweld y darlun cyfan.

"Peth bach digon dibwys yw hynny wrth gwrs," meddai, "ond mae cymaint wedi cael ei 'sgwennu amdano fo, a hynny'n aml gan rai nad oeddynt yn amlwg yn ei adnabod yn iawn.

"Roedd angen am gyfrol fel hon - ysgrifau gan ei gyfeillion sydd yma, pobl oedd yn ei adnabod ac yn meddwl y byd ohono."

Gwylio adar

Un arall sy'n ei gofio o'r amser roedd yn byw yn Llŷn yw Ann Owen Vaughan, sy'n wreiddiol o Fynytho.

Yn y gyfrol mae'n dweud: "Roedd caredigrwydd a ffraethineb yn rhan fawr o'i bersonoliaeth, a hiwmor hefyd - roedd o wrth ei fodd yn tynnu coes.

"Fe dreuliais i oriau yn ei gwmni fo wrth fynd i wylio adar, roedd o yn ei elfen wrth siarad am fyd natur ac roedd o'n wybodus iawn am y pwnc.

"Dwi'n siŵr ei fod o'n arfer dewis ei leoliadau pregethu ar y Sul yn ôl lle'r oedd yr adar difyrraf i'w gweld."

Mae Ann yn cytuno gyda Gareth bod llawer o bobl ond wedi gweld un ochr o gymeriad dyn oedd â phersonoliaeth ddofn a chymhleth.

"Mae'r llyfr hwn yn gyfle gwych i ddod i nabod yr R.S. Thomas go iawn.

"Roedden ni i gyd, fel ffrindiau iddo, yn teimlo bod digonedd wedi cael ei 'sgwennu am ei waith gan ysgolheigion ar hyd a lled y wlad.

"Ond yn wahanol i'w waith o, fyddwn ni oedd yn nabod y cymeriad go iawn ddim yma am byth ac mae sawl un wedi'n gadael ni'n barod.

"Mae cyhoeddi'r gyfrol hon yn hollbwysig er mwyn cael y straeon a'r hanesion am ochr gymdeithasol ei fywyd ar gof a chadw am byth."

Cofio R.S., Cleniach yn Gymraeg? Gwasg y Bwthyn