Tro Prestatyn ac Airbus i wneud marc

Cwpan Ewropa
Image caption Byddai cyrraedd rowndiau terfynol Cynghrair Ewropa yn freuddwyd i Prestatyn ac Airbus

Mae dau dîm o Gymru yn paratoi i wynebu her gyfandirol am y tro cyntaf heno wrth iddyn nhw gystadlu am le yng Nghynghrair Ewropa.

Wedi buddugoliaeth anhygoel y Bala yn erbyn clwb prifddinas Estonia, Levadia Tallin, nos Fawrth bydd Prestatyn ac Airbus UK yn gobeithio y gallan nhw efelychu'r gamp a sicrhau buddugoliaeth gartref.

Fe wnaeth Prestatyn ennill yr hawl i gystadlu yn Ewrop drwy guro Bangor yn rownd derfynol Cwpan Cymru - y tro cyntaf erioed i'r clwb ennill y gwpan.

"Llwyddodd y Bala i guro clwb da iawn a gobeithio y byddwn ni'n medru gwneud yr un fath," meddai hyfforddwr Prestatyn Chris Hughes.

'Cynllun tactegol'

"Mae'n dangos ei fod yn bosibl ac mae'n bwysig ein bod ni nawr yn canolbwyntio ar yr hyn rydyn ni'n wneud ac ar y ffordd rydan ni'n bwriadu chwarae."

Yn ôl Hughes mae ei glwb wedi paratoi at y gêm, sy'n cael ei chynnal yn stadiwm Belle Vue y Rhyl, yn drylwyr - ac eitha peth hefyd gan fod ei gwrthwynebwyr hanner ffordd drwy eu tymor nhw ac felly'n ffit ac yn barod.

"Mae gennym ni gynllun tactegol. Fe fyddem ni'n drefnus a bydd hynny'n ei gwneud hi'n anodd i'n torri ni lawr.

"Yn ein hystafell newid mae teimlad o undod, ac mae'r teimlad hwnnw wedi llwyddo i'n cario ni drwy lawer o gemau."

Mae disgwyl i Lee Hunt ddechrau fel ymosodwr i Brestatyn wedi iddo ymuno a nhw o glwb y Bala wedi iddo sgorio 17 gol iddynt y tymor diwethaf.

Eu gwrthwynebwyr heno fydd Metalurgs o Latvia, ac fe fu rheolwr cynorthwyol Prestatyn yn eu gwylio wrth iddyn nhw gael gem gyfartal yn erbyn Ventspils.

Ventspils fydd gwrthwynebwyr Airbus yn eu gêm nhw, drwy gyd-ddigwyddiad.

Brychdyn

AUK Brychdyn yw'r enw swyddogol mae Airbus yn ei ddefnyddio mewn cystadlaethau Ewropeaidd oherwydd reolau sy'n ymwneud a noddi.

Fe fydd eu brwydr nhw i gyrraedd rownd gyntaf Cynghrair Ewropa yn dechrau ar Y Cae Ras, Wrecsam.

Maen nhw'n ail yn eu cynghrair ar hyn o bryd ac fe gyrhaeddon nhw rownd grwpiau Cynghrair Ewropa yn 2009.

"Maen nhw'n dîm cryf, yn chwarae fwy fel tîm o Loegr," meddai Andy Preece, rheolwr AUK Brychdyn.

"Wedi gweld y tîm mae ganddyn nhw gryfderau ond mae yna ychydig o wendidau hefyd. Rydym yn weddol hyderus."

Mae'r ddwy gêm yn dechrau am 7pm nos Iau

Straeon perthnasol