Môn, mam fach!

Mae'r enwebiadau'n cau ar gyfer is-etholiad Môn yfory. Fe fydd 'na ddigon i ddweud ynghylch y ras rhwng hynny a'r etholiad ond beth am gychwyn trwy groniclo ambell i ffaith fach ryfedd ynghylch hanes gwleidyddol yr ynys?

Dechreuaf gyda'r un ffaith y mae pob anorac gwleidyddol yn gyfarwydd â hi. "Ers 1945 mae pob un o'r pedair prif blaid wedi ennill sedd Ynys Môn yn Nhŷ'r Cyffredin" yw'r ffaith honno. Mae'r haeriad yn gywir ond mae'r geiriad yn bwysig - yn enwedig y geiriau "prif" ac "ennill". Pam felly? Wel oherwydd bod o leiaf un sedd arall wedi ei chynrychioli gan aelodau o bedwar gwahanol liw.

Penfro yw'r sedd honno. Fe'i cynrychiolwyd yn gyntaf gan Gwilym Lloyd George. Fel Rhyddfrydwr yr etholwyd hwnnw ond dewisodd cymryd chwip y Ceidwadwyr yn y senedd. Fe'i olynwyd gan Desmond Donnelly oedd yn Llafurwr am y rhan fwyaf o'i yrfa seneddol ond oedd yn eistedd fel "Democrat" rhwng 1968 a 1970. Y Ceidwadwyr Nicholas Edwards a Nick Bennett oedd nesaf cyn ildio'r sedd yn ôl i Nick Ainger o Lafur yn 1992.

Un sedd - pedwar lliw ym Mhenfro felly. Cewch chi farnu os ydy'r ffaith bod Cynog Dafis wedi ei ethol fel ymgeisydd ar y cyd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd yn gosod Ceredigion / Ceredigion a Gogledd Penfro yn yr un dosbarth!

Os oedd Môn yn newid dwylo'n gyson yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif nid felly oedd pethau o ganol y 16eg ganrif i ganol y 19eg. Am y cyfan o'r cyfnod hwnnw cynrychiolwyd y sedd sirol a'r sedd fwrdeistrefol naill ai gan aelod o deulu'r Bulkeleys neu gan rywun o'u dewis. Seddi poced oedd seddi Môn felly tan 1868 pan etholwyd Richard Davies - yr anghydffurfiwr cyntaf i gynrychioli'r ynys.

O aelodau'r ugeinfed ganrif mae'n debyg taw Megan Lloyd George oedd y mwyaf adnabyddus ar lefel Brydeinig - ac nid dim ond oherwydd ei henw enwog. Mae'n ffaith rhyfedd mai Ledi Megan oedd cyflwynydd cyntaf y rhaglen radio "The Week in Westminster" gan wneud hynny er, neu oherwydd, ei bod yn aelod o'r senedd yr oedd yn gohebu arni.

Dyw hynny ddim wedi gosod cynsail!