Noson gymysg i dimau Cymru yn Ewrop

Pel droed Ewrop
Image caption Bydd rhaid i Brestatyn ac Airbus guro gemau oddi cartref i gyrraedd rownd nesaf y Gynghrair Ewropa

Roedd hi'n noson gymysg i dimau Cymreig yng Nghyngrhair Ewropa, wrth i Airbus a Phrestatyn chwarae eu gemau cyntaf yn y gystadleuaeth.

Roedd y ddau dîm o Gymru yn wynebu gwrthwynebwyr o Latvia er mwyn ceisio cyrraedd rownd gyntaf y brif gystadleuaeth.

Llwyddodd Airbus, neu AUK Brychdyn yn y gystadleuaeth yma, i sicrhau pwynt wedi gem gyfartal yn erbyn Ventspils.

Un yr un oedd y sgôr terfynol.

Ond doedd hi ddim yn noson lwyddiannus i Brestatyn, wrth iddyn nhw golli yn erbyn Liepajas Metalurgs o 2-1, er i'r tîm o Latvia orffen y gêm gyda 10 chwaraewr.

Airbus 1-1 Ventspils

Bydd Airbus yn mynd i mewn i ail gymal y gêm yn Latvia gyda chyfle da i gyrraedd y rownd nesaf, wedi gêm gyfartal yn Wrecsam nos Iau.

Er i Airbus gael nifer o gyfleoedd da, doedd yr un tîm wedi llwyddo i rwydo yn ystod yr hanner cyntaf.

Ond daeth chwaraewyr Ventspils allan yn gryf ar ôl yr egwyl, a sgoriodd Simonas Paulius wedi tair munud o'r ail hanner.

Daeth y tîm cartref yn ôl i mewn i'r gêm erbyn y diwedd, a llwyddodd yr ymosodwr Chris Budrys rwydo o gic rhydd Nicky Ward gyda 10 munud yn weddill.

Ond cyfartal oedd y canlyniad terfynol, a bydd Airbus yn teithio i Latvia ymhen wythnos gyda chyfle da i symud ymlaen yn y gystadleuaeth.

Prestatyn 1-2 Liepajas Metalurgs

Bydd rhaid i Brestatyn ennill yn yr ail gymal er mwyn cyrraedd y rownd nesaf, wedi iddyn nhw golli i ddeg dyn Metalurgs yn y Belle Vue yn Rhyl.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf, y blaenwr Jurgis Kalns yn penio i'r rhwyd ar ôl 16 o funudau.

Ond llwyddodd Prestatyn i ddod yn gyfartal cyn yr egwyl, wedi gôl gan Andy Parkinson yn eiliadau olaf yr hanner.

Er i chwaraewr canol cae Metalurgs, Roberts Savalnieks gael ei yrru o'r cae am ail gerdyn felen, sgoriodd Ilja Sadcins yn fuan wedi'r awr gydag ergyd o du allan i'r cwrt cosbi i sicrhau buddugoliaeth bwysig oddi cartref.

Cafodd Greg Stones gyfle i ddod a'r tîm cartref yn gyfartal mewn amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm, ond methodd ei beniad a thrafferthu'r gôl geidwad.

Bydd Prestatyn yn teithio i Latvia am yr ail gymal ddydd Iau nesaf.

Straeon perthnasol