Chwech yn sefyll yn Isetholiad Ynys Môn

blwch pleidleisio
Image caption Mae isetholiad yn cael ei gynnal yn Ynys Môn ddechrau Awst

Bydd chwe ymgeisydd yn sefyll yn Isetholiad Cynulliad Ynys Môn ar Awst 1, 2013.

Caeodd y rhestr enwebiadau am hanner dydd ddydd Gwener.

Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal yn sgil ymadawiad y cyn aelod Ieuan Wyn Jones.

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru wedi gadael ei swydd i ddechrau swydd newydd fel Prif Weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai, wedi iddo fod yn Aelod Cynulliad dros yr etholaeth ers 1999.

Y chwe ymgeisydd yw :-

  • Rhun ap Iorwerth - Plaid Cymru;
  • Stephen William Churchman - Democratiaid Rhyddfrydol Cymru;
  • Neil Fairlamb - Plaid Geidwadol Cymru;
  • Nathan Gill - UKIP Cymru;
  • Kathrine Jones - Plaid Lafur Sosialaidd;
  • Tal Michael - Llafur Cymru.

Straeon perthnasol