Pennaeth newydd i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth

Louise Amery Image copyright Arall
Image caption Ymunodd Louise â'r ganolfan yn 1993 fel Rheolwr Marchnata

Mae Louise Amery wedi ei secondio i swydd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth yn sgil ymddeoliad y cyn gyfarwyddwr Alan Hewson.

Ymunodd Louise â'r ganolfan yn 1993 fel Rheolwr Marchnata ac ers 2001 bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr y ganolfan.

Yn ogystal â'i gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau, mae Louise yn cynrychioli mudiadau celfyddydol ar grŵp Dyfodol Cynaliadwy Ceredigion ac mae'n aelod o Gylchdaith Adloniant Canolbarth Cymru.

Tan 2012 roedd yn un o Gyfarwyddwr Menter Aberystwyth ac am flynyddoedd bu'n Gyfarwyddwr ac yna'n Gadeirydd Gwyliau Cymru.

Straeon perthnasol