Bandiau Cymraeg yng ngŵyl castell Caerffili

Poster Ffililffest Image copyright Other
Image caption Dyma'r tro cyntaf y bydd cerddorion Cymraeg yn perfformio yn yr ŵyl

Dyw chwarae cerddoriaeth mewn castell ddim yn ddigwyddiad arferol i fandiau Cymraeg ond dyna ddigwyddodd ddydd Sul yng Nghaerffili.

Yn Ffiliffest roedd Cowbois Rhos Botwnnog, Al Lewis Band, Candelas, Swnami a Kizzy Crawford yn perfformio.

Dyma'r pumed tro i'r ŵyl un diwrnod gael ei chynnal ond y tro cyntaf i Fenter Iaith yr ardal newid ychydig ar yr arlwy.

'Denu'

"Mae Ffiliffest wedi bod yn ddathliad i blant a theuluoedd ond roedden ni eisiau denu pobl ifanc Caerffili a'r cyffiniau," meddai Ffion Rees, y swyddog datblygu cymunedol.

"Mae'r Cyfrifiad wedi dangos bod angen gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn Gymraeg ac mae digon yn siarad Cymraeg yng Nghaerffili.

"Roedden ni eisiau rhoi'r cyfle iddyn nhw werthfawrogi cerddoriaeth Cymru a diwylliant Cymru."

Nyth, criw o unigolion sy'n trefnu gigs, sy'n gyfrifol am yr arlwy gerddorol tra bod Menter Iaith yr ardal a Cadw yn trefnu'r ŵyl. Mae Cadw wedi cyfrannu'n ariannol.

Dawnsio gwerin

Roedd stondinau yn gwerthu bwydydd lleol, celf a chrefft a llyfrau, sesiynau chwaraeon a llenyddiaeth yn cael eu cynnal a dawnsio gwerin plant ysgolion y sir.

Dywedodd Ffion: "Mae'r castell yn lle eiconig. Ro'n i yna ddechrau'r wythnos ac roedd Americanwyr yna. Mae pobl o bob man yn dod i weld y lle.

"Ry'n ni'n lwcus iawn i gael defnyddio'r castell."

O'r blaen roedd yr ŵyl yn dechrau am 11am ac yn gorffen am 3pm.

'Penwythnos'

Ond y tro yma mae'n para tan 7pm a'r bwriad yw ehangu eto.

"Y flwyddyn nesa' ry'n ni wedi bwcio'r castell ar gyfer y penwythnos," meddai Ffion.

"Mae Tafwyl yng Nghaerdydd a ni eisiau rhywbeth yng Nghaerffili.

"Gawn ni weld shwd mae'n mynd eleni."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.