'Dylid urddo Warren Gatland yn farchog'

Warren Gatland Image copyright Arall
Image caption Warren Gatland yn dathlu ar ddiwedd y gêm dyngedfennol

Mae dau wleidydd wedi dweud y dylid urddo Warren Gatland yn farchog ar ôl i'r Llewod ennill y gyfres yn erbyn Awstralia.

Maeddodd y Llewod Awstralia 41-16 yn y drydedd gêm brawf.

Dywedodd AS Ceidwadol Maldwyn Glyn Davies: "Mi wyliais i ddwywaith, pan oedd yn fyw ac unwaith eto'n ddiweddarach.

"Yn yr ail hanner mi wnes i feddwl 'mae Awstralia'n bygwth' ond wedyn mi oedd 20 munud o rygbi gwych.

'Gêm ffantastig'

"Mi oedd yn gêm ffantastig - dwi ddim wedi dod drosti."

Dywedodd Arglwydd Elis-Thomas fod y daith yn "anhygoel".

"Carwyn James, hyfforddwr y Llewod yn 1971, oedd un o'r rhai a'm hysbrydolodd fwya' ac mi fyddai wedi bod wrth ei fodd yn gwylio hon."

Dywedodd iddo wisgo tei'r Llewod drwy gydol pob gêm.

"Mi fydda' i'n ei gwisgo hyd nes y bydd Warren a'r tîm yn cael cydnabyddiaeth deilwng."