Mike Phillips yn ystyried dyfodol ei yrfa ryngwladol

Mike Phillips Image copyright Other
Image caption Mike Phillips: "Fydda i ddim ar daith nesaf y LLewod, ond pum cap a thair buddugoliaeth? Dwi'n hapus â hynny."

Mae Mike Phillips wedi dweud ei fod yn ystyried ei ddyfodol fel chwaraewr rhyngwladol ar ôl bod yn rhan o gyfres fuddugol y Llewod yn erbyn Awstralia.

Mae blwyddyn yn weddill o gytundeb y chwaraewr gyda Bayonne.

Mewn colofn papur newydd, dywedodd Phillips efallai na fydd clybiau yn ei arwyddo os yw'n dal i chwarae i Gymru.

"Efallai os ydw i eisiau chwarae ar lefel clwb, bydd yn rhaid i mi roi'r gorau i fy ngyrfa ryngwladol... Mae'n rhywbeth y mae angen i mi feddwl yn hir a chaled yn ei gylch, ac mae gen i benderfyniadau i'w gwneud yn ystod y flwyddyn i ddod."

Y fuddugoliaeth 41-16 dros Awstralia yn Sydney oedd pumed gêm brawf Phillips gyda'r Llewod.

Chwaraeodd yn y tair gêm brawf yn Ne Affrica yn 2009.

77 cap i Gymru

"Os mai [gêm dydd Sadwrn] yw'r gêm ryngwladol olaf dwi'n ei chwarae, dyna ffordd i ymadael.

"Yn ychwanegol at hynny, brwydrodd Cymru yn ôl i ennill y Chwe Gwlad y tymor diwethaf. Pwy a ŵyr? Rydw i jyst yn falch ei bod hi'n ddiwedd y tymor nawr ac fe alla i'w fwynhau."

Mae Phillips wedi ennill 77 o gapiau Cymreig ac roedd yn aelod allweddol o'r timau a enillodd y gamp lawn yn 2008 a 2012, ac a gipiodd y bencampwriaeth yn 2013.

Bydd yn cael sgan ar anaf ar ei ben-glin ddydd Llun, ac mae'n debyg y bydd angen iddo gael "llawdriniaeth fechan" i gywiro problem sydd wedi ei ddal yn ôl yn ystod y daith.

Collodd yr ail brawf yn Melbourne, a dywedodd Warren Gatland fod yr anaf yn ffactor.

Serch hynny, roedd Phillips ymhlith y 15 a ddechreuodd y trydydd prawf, ac fe chwaraeodd ran allweddol yn adeiladu ar gyfer cais Alex Corbisiero, cyn cael ei eilyddio yn ystod yr ail hanner.

Dywedodd: "Fydda i ddim ar daith nesaf y Llewod, ond pum cap a thair buddugoliaeth? Dwi'n hapus â hynny."