Gemau Olympaidd Arbennig: Y Cymry'n paratoi

Aelodau o garfan Gemau Olympaidd Arbennig Cymru y tu allan i'r Senedd
Image caption Aelodau o garfan Gemau Olympaidd Arbennig Cymru y tu allan i'r Senedd

Mae'r gweinidog diwyllliant a chwaraeon, John Griffiths, wedi cyfarfod â thîm Gemau Olympaidd Arbennig Cymru i ddymuno pob lwc iddyn nhw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau'r haf.

Cynhelir y gemau eleni yng Nghaerfarddon rhwng 28 Awst ac 1 Medi.

Yn ystod y gemau bydd tua 1,700 o athletwyr gydag anableddau dysgu o bob oed o bob cwr o Brydain yn cystadlu mewn dwsin o gampau.

Bydd 144 o athletwyr yn cynrychioli Tîm Cymru yno.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.