Damwain ddifrifol: Dyn wedi marw

Mae dyn 63 oed wedi marw mewn damwain car ger ardal y Barri.

Digwyddodd y ddamwain rhwng ffordd Meggitt a'r A4226 heol Port i'r gorllewin ar brynhawn dydd Llun.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru car Toyota Camry llwyd ei ddarganfod yn farw yno. Mae dyn arall 71 oed oedd yn gyrru Vauxhall llwyd wedi ei yrru i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau sioc.

Mae ffordd yr A4050 wedi bod ar gau i'r ddau gyfeiriad yn ystod y dydd.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i bobl gysylltu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.

Straeon perthnasol