Galw am ymchwiliad i bel-droed

Jonathan Edwards
Image caption Mr Edwards yw Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards yn galw am ymchwiliad i'r ffordd mae pêl-droed yn cael ei lywodraethu yng Nghymru.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad Cyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio ystyried tystiolaeth newydd ar ôl i glybiau Barri a Llanelli gael eu gwahardd o'r gynghair.

Roedd Cymdeithas Pêl-Droed Cymru wedi gofyn iddynt ail edrych ar y ddau achos ond fe wrthodon nhw wneud hynny wedi i fwyafrif bleidleisio yn erbyn atal y rheolau sefydlog.

Fe ddisgrifiodd Mr Edwards y penderfyniad fel un "hurt" a "chwerthinllyd" a dywedodd fod angen diwygio'r ffordd mae'r gymdeithas yn cael ei rhedeg.

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fodlon gwneud unrhyw sylw ar y mater.

Mewn datblygiad arall mae aelod blaenllaw o'r cyngor wedi ymddiswyddo mewn protest gan ddisgrifio digwyddiadau heddiw fel "traed moch".

'Ffars'

Mewn cyfweliad gyda Newyddion Ar-lein fe ddywedodd Mr Edwards ei fod yn "anhapus iawn" gyda phenderfyniad cyngor y gymdeithas i wrthod trafod y dystiolaeth newydd.

"Heddi mae'r cyngor wedi gwrthod hyd yn oed trafod yr achosion er bod tystiolaeth newydd - mae hyn yn gwneud yr holl beth i edrych i fi fel rhyw fath o ffars," meddai.

"Mae gan bêl-droed botensial enfawr i hybu proffil Cymru yn rhyngwladol - mae angen tîm rhyngwladol cryfach a dyma pan mae'r ddau glwb yma'n bwysig.

"Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gymdeithas ac oherwydd hynny a phwysigrwydd pêl-droed er mwyn gwerthu Cymru i'r byd fe ddylai'r llywodraeth ymchwilio i fewn i strwythurau llywodraethol FA Cymru.

"Yn amlwg dydyn nhw ddim yn ddigon da ar gyfer yr oes fodern."

Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Ymchwiliad

Fe wnaeth bwyllgor Cynulliad gynnal adolygiad o bêl-droed yng Nghymru nol yn 2006.

Roedd yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi yn sgil hynny yn galw ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i foderneiddio ei strwythurau a'i chyfrifoldebau, yn enwedig mewn cysylltiad â datblygiad y gêm.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ddwys ystyried gwerth y buddsoddiant yr oedden nhw yn rhoi i bêl-droed yng Nghymru.

Fe wnaeth Mr Edwards ategu hyn gan ddweud fod angen i'r llywodraeth a Chwaraeon Cymru ystyried atebolrwydd y gymdeithas gan ystyried eu bod yn derbyn arian cyhoeddus.

Ymddiswyddo

Mewn datblygiad arall mae aelod o'r cyngor wedi ymddiswyddo.

Dywedodd Mr Andrew Edwards, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Port Talbot fod y broses o wneud penderfyniadau o fewn Cymdeithas bêl-droed Cymru yn "draed moch".

"Roeddwn yn teimlo'n rhwystredig i ddweud y gwir efo'r holl broses gwneud penderfyniadau," meddai Mr Edwards oedd yn cynrychioli Cynghrair Bêl-droed Cymru ar y cyngor.

"Ro'n i'n teimlo fod heddiw'n gyfle perffaith i wneud yn iawn am yr anghyfiawnder gafodd ei wneud i Barri a Llanelli.

"Y disgrifiad fyddwn i'n ei ddefnyddio ydi traed moch i fod yn onest. Roedd tystiolaeth newydd i'w ystyried ond penderfynodd y cyngor beidio â gwrando."

Glasgow Rangers

Cyfeiriodd Mr Jonathan Edwards at glybiau eraill sydd wedi cyflawni troseddau ond gafodd aros yn systemau pêl-droed eu gwlad.

"Edrych ar Rangers yn yr Alban," meddai.

"Cafwyd nhw yn euog o osgoi talu trethi ar raddfa anferthol a chafon nhw ddim eu twlu mas fel Barri a Llanelli - a doedd y ddau glwb yna heb wneud dim byd oedd yn agos i be wnaeth Rangers.

"Mae Juventus yn enghraifft arall - fe gafon nhw aros er iddyn nhw eu cael yn euog o dderbyn bribes.

"Dim ots be mae'r rhain wedi ei wneud allwch chi dim dinistrio etifeddiaeth y clybiau.

"Mae beth sydd wedi digwydd heddiw yn hollol chwerthinllyd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.