Amgueddfa Cymru'n talu £3.7m i gwmni o Ffrainc

Lindsay Whittle Image copyright Wikipedia
Image caption Mae Lindsay Whittle yn credu bod angen rhoi mwy o gyfle i gwmnïau Cymreig

Mae Plaid Cymru wedi darganfod fod cytundeb arlwyo Amgueddfa Genedlaethol Cymru gwerth bron i £4m wedi ei roi i gwmni Ffrengig.

Yn ôl yr hyn maen nhw wedi ei ddarganfod drwy gais rhyddid gwybodaeth, cwmni Elior, sydd â chanolfan ym Macclesfield yn Swydd Caer, sydd wedi cael y cytundeb deng mlynedd.

Mae'r aelod dros Ddwyrain De Cymru Lindsay Whittle wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud bod angen i gyrff cyhoeddus mawr gynnig cytundebau i gwmnïau lleol.

Yn ôl Amgueddfa Genedlaethol Cymru, allan o'r cwmnïau oedd wedi ceisio am y cytundeb, dim ond Elior oedd ddigon mawr i wneud y gwaith.

'Chwarae eu rhan'

Mae'r cytundeb yn ymwneud â darparu gwasanaethau arlwyo i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan ac Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe.

Wrth ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth fe wnaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru gadarnhau fod gwerth y cytundeb yn £3,705,000 - roedd hyn yn seiliedig ar incwm rhent o £2.8m a buddsoddiad cyfalaf o £905,000.

Mae'n debyg bod maint y cytundeb yn golygu nad oedd cwmnïau Cymreig mewn sefyllfa i allu profi y bydden nhw'n gallu ei gyflawni.

Yn ôl Mr Whittle fy ddylai cytundebau o'r fath gael eu torri i lawer i rhai llai fel bod cwmnïau lleol, sydd fel arfer yn llai na rhai byd-eang, yn medru ceisio amdanynt.

Dywedodd Lindsay Whittle: "Ond mae hynny angen i'r holl sector cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a chyrff fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru i chwarae eu rhan mewn codi cyfraddau caffael lleol."

'Cyfle teg'

Wrth esbonio'i penderfyniad dywedodd Amgueddfa Cymru: "Daeth yn amlwg mai dim ond Elior oedd a'r gallu a'r arian digonol i gyflenwi'r buddsoddiad cyfalaf angenrheidiol".

Dyw hynny ddim ddigon da yn ôl Mr Whittle: "Rwyf wedi derbyn cwynion gan fusnesau sy'n ceisio ennill gwaith mewn llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill nad ydynt yn cael cyfle teg.

"Mae contractau sy'n cael eu hysbysebu mor fawr fel eu bod yn atal llawer o gwmnïau Cymreig rhag bidio am waith, ond petaent yn cael eu dad-fwndelu, byddai cyfle i gwmnïau lleol fidio.

"Ac wrth gwrs, byddai elw a enillir gan gwmnïau Cymreig yn aros yng Nghymru yn hytrach na mynd dros y ffin i Loegr neu y tu allan i'r Deyrnas Gyfunol."

Yn ôl Plaid Cymru dim ond 52% o gytundebau caffael sy'n cael eu rhoi i gwmnïau lleol. Mae'r ffigwr cyfatebol ar gyfer gwledydd fel Ffrainc yn tua 98%:

"Os gallwn gyrraedd targed o 75% o gaffael lleol yng Nghymru, yna gallai hynny greu 50,000 o swyddi yma a byddai'n gwneud tolc mawr yn y ffigyrau diweithdra," meddai Mr Whittle.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.