Car heddlu ar dân: dyn wedi ei arestio

Car heddlu Image copyright bbc
Image caption Cafodd y car heddlu ei roi ar dân oriau man bore Mawrth

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gar heddlu gael ei roi ar dân yn Wrecsam.

Roedd swyddogion wedi ei galw i dŷ ym Minafon, Parc Caia, yn oriau man bore Mawrth.

Tra roedden nhw yn cynnal ymholiadau fe gafodd y car heddlu, oedd wedi ei barcio'r tu allan i'r tŷ, ei gynnau.

Digwyddodd hyn rhywbryd wedi 4:00yb.

Fe gafodd y gwasanaethau tân ei galw er mwyn diffodd y tan ac arestiwyd dyn yn y fan a'r lle.

Mae o wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu yn parhau â'u hymholiadau.