Gêm bêl-droed ar gyfer Apêl April

Tîm o gyn sêr Cymru ym Machynlleth

Mae mam April Jones wedi diolch i bobl am eu cefnogaeth mewn gêm bêl-droed i godi arian i gofio am ei merch.

Roedd rheolwr Cymru Chris Coleman a nifer o gyn sêr y tîm cenedlaethol wedi dod i Fachynlleth i chwarae yn y gêm elusennol.

Fe wnaeth Coral Jones, mam y ferch bum mlwydd oed, annerch y chwaraewyr a'r dorf cyn y gêm nos Fawrth.

Ym mis Mai cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes am lofruddio a chipio April.

Fe ddiflannodd hi ar Hydref 1 y llynedd tra'n chwarae ger ei chartre' ym Machynlleth.

Dyw ei chorff byth wedi cael ei ddarganfod.

Torf o 700

Roedd tîm Cymru'n wynebu chwaraewyr lleol o flaen torf o dros 700 o bobl, gyda'r tîm cartre' wedi eu gwisgo mewn pinc, hoff liw April.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Craig Duggan

Fe guron nhw gyn sêr Cymru o 6-2.

Cyn y gêm, fe ddiolchodd Coral Jones i'r chwaraewyr a thrigolion Machynlleth am eu cefnogaeth yn dilyn diflaniad April, ac fe gyflwynodd Chris Coleman dusw o flodau iddi.

Dywedodd Coleman: "Rydym yma ar gyfer April - merch arbennig iawn - ac ar gyfer ei theulu.

"Rydym i gyd wedi dod yma i gael gêm fach o bêl-droed a cheisio o'n gorau i roi gwen ar wynebau rhai pobl sydd wedi bod trwy gymaint."

Roedd nifer o gyn sêr rhyngwladol yn ymuno â Coleman - gan gynnwys cyn ymosodwr Arsenal a West Ham John Hartson, cyn asgellwr Newcastle United Malcolm Allen, cyn asgellwr Manchester United, Chelsea a Wrecsam Mickey Thomas, ac Andy Legg, chwaraewr poblogaidd gyda Chaerdydd ac Abertawe.

£73,000

Yn ôl Ian Gwyn Hughes, o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fe ddaeth y syniad o gynnal gêm elusennol pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Yr Alban yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghaerdydd fis Hydref y llynedd, ychydig wedi i April ddiflannu.

"Roedd wedi effeithio ar bawb, ac mae'n ffordd fechan i bêl-droed Cymru gynnig cefnogaeth," meddai.

Mae Cronfa April wedi codi £73,000 hyd yma.

Dywedodd trefnydd y gêm nos Fawrth, Ed Holt, mai hwn fyddai'r digwyddiad mawr ola' mwy na thebyg cyn i'r apêl gau ar Fedi 30.

Straeon perthnasol