Abertawe yn arwyddo Bony

Wilfried Bony
Image caption Wilfried Bony yw'r seithfed chwarewr i ymuno â Abertawe ers diwedd y tymor

Mae Abertawe wedi arwyddo Wilfed Bony o glwb Vitesse Arnhem am £12 miliwn - y mwyaf maen nhw erioed wedi ei dalu am chwaraewr.

Fe wnaeth yr ymosodwr 24 oed o'r Traeth Ifori sgorio 31 gol mewn 30 ymddangosiad i Vitesse Arnhem y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd: "Rwyf wedi bod eisiau chwarae yn yr Uwch Gynghrair er amser maith."

Bony yw'r seithfed chwaraewr i Abertawe arwyddo dros yr haf, y chwech arall yw Jonjo Shelvey o Lerpwl, Alejandro Pozuelo a Jose Canas o Real Betis, Jordi Amat o Espanyol, Gregor Zabret o NK Domzale and Alex Gogic o Olympiakos.

Mae'r buddsoddiad diweddaraf yn hwb pellach i reolwr y clwb Michael Laudrup, oedd wedi dweud bod y clwb angen cryfhau ar gyfer y tymor nesaf.

Fe fydd o'n gobeithio y bydd Bony'n gallu gwneud beth sy'n dod yn naturiol iddo - sgorio goliau.

Mae cefnogwyr yr Elyrch wedi bod yn pryderu bod gormod o bwysau ar Michu a gafodd 22 o goliau'r tymor diwethaf.

Jonathan de Guzman oedd yn ail gyda 8 gol, ac mae ef newydd gadarnhau y bydd yn ail-ymuno ag Abertawe ar fenthyg am flwyddyn arall.

Cafodd Bony, sy'n cael ei ddisgrifio fel chwaraewr cyflym a phwerus, ei enwi'n chwaraewr gorau'r Iseldiroedd am ei berfformiadau yn 2012-13.

Straeon perthnasol