Gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd

Mae oedi wedi bod ar yr M4 oherwydd damwain rhwng Cyffordd 37 a 38 rhwng Y Pîl a Phort Talbot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon amser cinio ddydd Gwener pan oedd gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd.

Bu'n rhaid i ddau o deithwyr gael help y gwasanaethau tân cyn eu bod yn medru gadael eu cerbydau.

Roedd dwy lôn ynghau.