Arestio dynes wedi ymosodiad

Mae'r heddlu'n dweud eu bod wedi arestio dynes 31 oed ar amheuaeth o ymosod ar ddyn 35 oed ym Mhort Talbot.

Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Talbot am 7:40yh nos Sadwrn, yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, cafodd dyn anafiadau i'w abdomen.

Mae'r heddlu nawr yn apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.

"Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys am driniaeth" meddai'r llefarydd. "Dyw hi ddim yn ymddangos fod ei fywyd mewn perygl.

"Mae dynes 31 oed wedi cael ei harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad honedig hwn.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu a oedd yn yr ardal ar y pryd, gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.