Apêl am wybodaeth wedi ymosodiad

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Abertawe nos Sadwrn, pan gafodd dyn 23 oed anafiadau i'w frest.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys wedi'r digwyddiad yn Somerset Place tua 11:45yh.

Dyw hi ddim yn ymddangos fod ei fywyd mewn perygl.

Mae dyn 41 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu a oedd yn yr ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.