Holi pum dyn am achos trywanu yng Nghaerdydd

Mae pump o ddynion wedi cael eu harestio yn dilyn ffrwgwd rhwng grŵp o ddynion yn Nhremorfa yng Nghaerdydd, pan gafodd un dyn ei drywanu.

Cafodd heddlu arfog eu galw i Ffordd Craigmuir am 7:27yb ddydd Sul wedi galwad i'r gwasanaeth 999.

Roedd tri o'r dynion a arestiwyd wedi'u cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod rhan o'r ffordd wedi ei chau a bod cyllell wedi cael ei ddarganfod.

Dyw hi ddim yn ymddangos fod y dynion wedi cael eu hanafu'n ddifrifol.

Mae'r heddlu yn parhau â'u hymchwiliad ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.