Bore llwyddiannus i Forgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Cafodd Morgannwg fore llwyddiannus yn Old Trafford yn erbyn Sir Gaerhirfryn.

Y cyfanswm erbyn amser cinio oedd 108-1 (32 o belawdau).

Roedd Gareth Rees yn 51 heb fod allan a Murray Goodwin yn 31 heb fod allan.

Prince ddaliodd y bêl wedi i Kerrigan fowlio yn erbyn William Bragg.

Roedd wedi sgorio 24 o rediadau.