Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw ym Mhencoed

  • 15 Gorffennaf 2013

Mae dyn 45 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

Daethpwyd o hyd i gorff menyw 44 oed ym Mhencoed ger Pen-y-bont nos Sul.

Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Pen-y-bont.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn chwilio am wybodaeth am symudiadau car du Peugeot 307 â'r rhif cofrestru KO 04 VDA rhwng 2pm ddydd Sul a 12.30pm ddydd Llun.