Damwain lori: Dyn wedi marw

Mae dyn 89 oed wedi marw o'i anafiadau yn dilyn damwain oedd yn ymwneud gyda lori casglu sbwriel yn y Rhyl.

Digwyddodd y ddamwain tua 10.44 fore Llun ar stryd Orllewin Cinmel.

Roedd y dyn oedd yn gerddwr wedi taro mewn i'r cerbyd.

Cafodd anafiadau difrifol i'w ben a bu farw nos Lun.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw.