Sir Gaerhirfryn yn ymateb yn hyderus

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Ar yr ail ddiwrnod yn Old Trafford mae Sir Gaerhirfryn yn eu batiad cynta' wedi ymateb yn hyderus.

Y sgôr oedd 93-0, Brown heb fod allan ar 48 a Reece heb fod allan ar 42.

Roedd Morgannwg yn eu batiad cynta' allan am 474.

Sgoriodd Goodwin 194 o rediadau mewn 460 o funudau a Rees 58 o rediadau mewn 140 o funudau.