Ymchwiliad i achosion o Salmonela

Meddyg
Image caption Mae tri o blant o Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr wedi eu heintio

Mae tri achos o Salmonela wedi eu cadarnhau yn ardal Abertawe.

Tri o blant o Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr yn Abertawe sydd wedi dal yn haint ac maent yn gwella yn eu cartrefi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio gyda swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i ddarganfod tarddiad yr haint.

Fel arfer mae Salmonela yn tarddu o fwyta cig amrwd, wyau neu laeth sy'n cynnwys y bacteria.

Dywedodd Dr Mac Walapu, ymgynghorydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae Salmonela yn gallu achosi dolur rhydd, crampiau'r stumog, chwydu a thwymyn."

"Er ei fod yn haint annymunol, fel arfer mae pobl sy'n dioddef ohono yn gwella'n llwyr."

"Rydyn ni'n gweithio gyda swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i ddarganfod tarddiad yr haint."

Mae meddygon yn ardal Abertawe yn ymwybodol o'r haint, ac mae gofyn i fod yn wyliadwrus o symptomau mewn pobl sydd â chysylltiadau a'r ysgol.

Dylai unrhyw un sydd yn sâl gyda'r symptomau gysylltu gyda'i meddyg teulu.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.