Cyn-gadeirydd yn gwadu 'gwrthdaro personoliaeth'

Ysbyty Gwynedd Image copyright Eric Jones
Image caption Mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd mewn chwe sir yng ngogledd Cymru

Mae cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwadu mai "gwrthdaro personoliaeth" oedd y gwir achos am ffaeleddau mawr yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.

Mae'r Athro Merfyn Jones wedi bod yn rhoi tystiolaeth i Aelodau Cynulliad ddydd Iau fel rhan o ymchwiliad.

Daw'r ymchwiliad wedi i adroddiad gael ei gyhoeddi oedd yn nodi bod dirywiad perthynas rhai o benaethiaid y sefydliad wedi arwain at broblemau mawr yn y ffordd yr oedd y bwrdd yn cael ei rhedeg.

Fe ymddiswyddodd Yr Athro Jones fel Cadeirydd yn ogystal â'r brif weithredwraig, Mary Burrows, wedi'r adroddiad.

Er iddo gydnabod yn y pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad bod yna "broblemau" yn y misoedd diwethaf rhyngddo ef â Ms Burrows, dywedodd na fu yna "unrhyw fath o wrthdaro o ran personoliaeth" rhwng aelodau'r bwrdd.

Cafodd yr adroddiad ei wneud gan y Swyddfa Archwilio ac Arolygiaeth Iechyd Cymru ac mae Mr Jones yn dweud fod y ddogfen yn "hynod o ddifrifol" ac y byddai gwersi yn cael eu dysgu.

Ardal fawr

Yn ystod y sesiwn fe ddywedodd Yr Athro Jones bod yna broblemau gyda'r strwythurau o ran rheoli a bod hynny yn rhannol oherwydd maint yr ardal y mae'r bwrdd iechyd yn gwasanaethu.

"Roedd yna broblemau gyda chreu un sefydliad allan o wyth i wasanaethu ardal ddaearyddol o tua 700,000 o unigolion a hynny gyda thri ysbyty gwahanol gyda diwylliant eu hunain."

Ond gwadodd fod y bwrdd iechyd yn rhy fawr. Awgrymodd y dylai'r bwrdd gael ei ail enwi fel Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru.

Clywodd y pwyllgor bod yna broblemau difrifol wedi bodoli yn Ysbyty Glan Clwyd ers mis Medi ac er bod y pwysau wedi lleihau dywedodd yr Athro Jones ei fod yn "parhau yn bryderus" am y sefyllfa.

Arbed arian

Yn yr adroddiad awgrymwyd bod llawdriniaethau yn cael eu gohirio a bod rhestrau aros yn tyfu gyda'r bwriad i arbed arian.

Yn ôl Cadeirydd Cyllid y Bwrdd Keith McDonough, doedd dim modd iddo gadarnhau faint o gleifion oedd wedi eu heffeithio na phryd y cawson nhw wybod na fydden nhw'n cael triniaeth.

Ond dywedodd fod pwysau yn ystod misoedd y gaeaf wedi bod yn ffactor.

Cafodd yr Aelodau Cynulliad hefyd wybod bod yna oedi wedi bod yn y lledaeniad o'r afiechyd c.difficile yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Roeddwn i yn bendant wedi fy synnu pan ges i glywed am hyn....ac mi gefais wybod am y peth yn hwyrach nag y dyliwn i yn fy marn i," meddai'r Athro Jones.

Cadarnhaodd aelodau o'r bwrdd eu bod yn cadw golwg ar y ffigyrau marwolaethau yn Ysbyty Gwynedd sydd ar gynnydd a bod y mater yn un difrifol.

Ond mynnodd Dr Lyndon Miles, cyn cadeirydd Pwyllgor diogelwch ac ansawdd Betsi Cadwaladr, er bod y ffigyrau yn eu poeni nad oedden nhw lawer yn waeth yn Ysbyty Gwynedd nac ysbytai eraill tebyg yng Nghymru.

Doedd Ms Burrows ddim yno i roi tystiolaeth am ei bod yn sâl.

Yn hytrach bydd yn cyflwyno ei thystiolaeth ar ffurf ysgrifenedig.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru rhoi ei hymateb nhw i adroddiad Betsi Cadwaladr yn ddiweddarach.

Straeon perthnasol