Siom i Brestatyn yn Ewrop

Cwpan Ewropa
Image caption Rijeka 5 - 0 Prestatyn

Roedd hi'n noson siomedig i Brestatyn yng Nghwpan Ewropa, collon nhw o 5-0 yn erbyn Rijeka.

Dyma oedd ail gêm Prestatyn yn y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw guro Metalurgs yn y rownd gyntaf.

Ond roedd y tim o Groatia llawer rhy gryf i Brestatyn yn Stadiwm Kantrida, gan ennill yn hawdd.

Bydd rhaid i ddynion Chris Hughes obeithio am berfformiad llawer gwell yn yr ail gymal os ydynt am barhau yn y gystadleuaeth.

Aeth Rijeka ar y blaen o fewn ugain munud, wrth i Benko sgorio'r cyntaf o dair gôl ar y noson.

Daeth y ddwy gôl arall un bob ochr i'r egwyl, cyn i Vedran Jugović sgorio'r bedwerydd wedi awr o chwarae.

Ond roedd mwy i ddod i'r tîm cartref, gyda'r eilydd Damir Zlomislić yn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn gyda phum munud yn weddill.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ddydd Iau, Gorffennaf 25ain.

Rijeka 5 - 0 Prestatyn

Vargic Roberts
Knezevic Hayes
Alispahic Hessey
Tomecak Stones
Leskovic Holmes
Boras Davies
Males Parker
Brezovec Gibson
Jugovic Parkinson
Ajayi Owen
Benko Stephens

Straeon perthnasol