Morgannwg yn colli

Mae Morgannwg wedi colli yn erbyn Gwlad yr Haf yn eu gem 20 pelawd yn Taunton.

Sgoriodd Jos Buttler 48 oddi ar 19 pel i sicrhau buddugoliaeth i Wlad yr Haf o 64 o rediadau.

Llwyddodd Gwlad yr Haf i gyrraedd 199 am 6 yn eu 20 pelawd, diolch i bartneriaeth o 68 gan Buttler a Craig Meschede.

Jim Allenby oedd prif sgoriwr Morgannwg, gan gyrraedd 69 cyn colli ei wiced i Max Waller.

135 oedd sgor terfynol Morgannwg.

Gwlad yr Haf 199-6 (20 pelawd), Morgannwg 135 (18.1 pelawd)