Llofruddiaeth: cyhuddo dyn

Mae dyn 45 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yn ei chartref ger Pen y Bont.

Cafodd corff Assia Newton oedd yn 44 oed ei darganfod yn ei thŷ ym Mhencoed yn hwyr ar ddydd Sul 14 o Orffennaf.

Roedd hi'n fam i dri o blant.

Mae Kelvin Newton yn ymddangos o flaen llys ynadon Pontypridd bore Sadwrn.

Straeon perthnasol